Trosolwg

Mae Procurex Cymru yn cysylltu prynwyr a chyflenwyr o bob rhan o sector caffael cyhoeddus Cymru – sy’n werth dros £8.3bn bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cysyniad o gaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol drwy Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sy’n dwyn pedair egwyddor ynghyd: Partneriaeth Gymdeithasol, Caffael Cymdeithasol Gyfrifol, Gwaith Teg, a Datblygu Cynaliadwy.

Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio yng Nghymru osod a chyhoeddi amcanion i gyflawni “nodau caffael cymdeithasol gyfrifol”.

Mae’r digwyddiad yn galluogi’r holl randdeiliaid i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf sy’n siapio dyfodol y maes hwn – gan gynnwys cyfleoedd helaeth i ddatblygu sgiliau, rhwydweithio, cydweithio ac arddangos cynnyrch i brynwyr yn y sector cyhoeddus a sefydliadau yn y sector preifat fel ei gilydd.

Beth sy’n digwydd yn Procurex Cymru?

Mae Procurex Cymru yn rhoi cyfle unigryw i brynwyr a chyflenwyr wella eu gwybodaeth a’u sgiliau, yn ogystal â rhannu arferion gorau drwy gyfleoedd rhwydweithio, arddangos a chydweithio helaeth, gan gynnwys: