Arddangosfa Cynnyrch

I brynwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru, bydd Arddangosfa Cynnyrch Procurex Cymru yn cynnig cyfle gwerthfawr i ymgysylltu a datblygu partneriaethau newydd a chyfredol gyda chyfoeth o gyflenwyr blaenllaw, sy’n mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau arloesol sy’n gallu cefnogi gofynion caffael nawr ac yn y dyfodol.

Ar gyfer cyflenwyr yn y sector preifat, mae’r arddangosfa cynnyrch yn cynnig llwyfan unigryw i gysylltu â thros 1,000 o benderfynwyr allweddol o bob rhan o gymuned caffael cyhoeddus Cymru. Dyma’ch cyfle i gyflwyno eich cynnyrch a’ch gwasanaethau i’r staff a’r sefydliadau hynny sy’n gyfrifol am wariant blynyddol o dros £8.3bn.