Noddi/Arddangos yn Procurex Cymru

Mae Procurex Cymru 2023 yn darparu cyfle heb ei ail i gysylltu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau’n uniongyrchol â phobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau ar draws cymuned caffael a chadwyn gyflenwi Cymru, sydd werth £8.3bn bob blwyddyn.

Mae Procurex Cymru 2023 yn cynnig amrywiaeth o becynnau noddi ac arddangos arloesol sy’n addas ar gyfer yr holl gyllidebau, amgylchiadau a gofynion.

Pam Noddi

Mae noddi Procurex Cymru yn cynnig manteision ychwanegol i gwmnïau sy’n awyddus i gynyddu eu cyfranogiad:

  • Mae sylw i’ch brand, cyn ac ar ôl y digwyddiad drwy ein Pecyn Marchnata Digidol, wedi’i gynnwys ym mhob pecyn noddi.
  • Sicrhau sylw yn y lleoliad gyda chyfleoedd brandio gwell a stondin arddangos wedi’i lleoli’n ganolog.
  • Cael eich gweld fel arweinydd yn y diwydiant drwy ddarparu slot siarad ar yr agenda.
  • Alinio eich brand â’r sefydliadau blaenllaw yn y sector cyhoeddus sydd hefyd yn arddangos ar y diwrnod.

Pam Arddangos

Mae pecynnau Arddangos Procurex Cymru wedi cael eu dylunio i gefnogi cyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr sy’n awyddus i ymgysylltu â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, sefydliadau partner a sefydliadau cadwyn gyflenwi allweddol ar draws y farchnad gaffael.

Mae gennym amrywiaeth eang o becynnau arddangos ar gael i fudiadau o bob maint.

Meithrin perthnasoedd newydd a gwerthfawr

Creu cysylltiadau gwerthu newydd

Cwrdd ag amrywiaeth eang o brynwyr a chontractwyr allweddol ar un diwrnod

Datblygu dealltwriaeth o’r farchnad

Arddangos cynnyrch a datrysiadau yn fyw i gynulleidfa sydd â diddordeb