Parth Cynaliadwyedd a Gwerth Cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod amcan datgarboneiddio uchelgeisiol i leihau allyriadau o leiaf 45% erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, mae targed wedi cael ei osod hefyd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. 

Gyda hyn mewn golwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025, gan gynyddu i 80% erbyn 2030. Rhagwelir, gyda’r ymrwymiad mwyaf posibl gan y sector cyhoeddus, y gall caffael cyhoeddus ymrwymo i symud yn sylweddol i ffwrdd oddi wrth y deunyddiau hynny sydd â’r ôl troed carbon uchaf, a sicrhau mai nwyddau cynnwys ailddefnyddiadwy, wedi’u hailweithgynhyrchu a’u hailgylchu sy’n cael eu hystyried yn gyntaf.

Mae’r mesurau yn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn cefnogi’r gwaith o ddarparu caffael cymdeithasol gyfrifol – sy’n golygu prynu nwyddau, gwaith, a gwasanaethau mewn ffordd sy’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae’n defnyddio’r pwrs cyhoeddus i sicrhau canlyniadau buddiol i’r gymdeithas ehangach.  

Bydd Parth Cynaliadwyedd a Gwerthoedd Cymdeithasol Procurex Cymru yn cynnal sawl sesiwn sy’n canolbwyntio ar archwilio pam mae deall cynaliadwyedd caffael a gofynion gwerth cymdeithasol Cymru yn hanfodol er mwyn sicrhau busnes yn y farchnad sector cyhoeddus yng Nghymru.