Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru

Bydd Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn gyfle i brynwyr a chyflenwyr fframwaith, y rhai sy’n bodoli eisoes a’r rhai sy’n gobeithio ymuno, ymgysylltu â’r rheini sy’n datblygu polisïau ac yn creu contractau fframwaith o fewn sectorau ac yn genedlaethol. Dyma gyfle penigamp i brynwyr a chyflenwyr ddeall pa fframweithiau mae modd ymuno â nhw a phrynu ganddynt.

Ymunwch â chymuned caffael Cymru yn Procurex Cymru i feithrin perthnasoedd newydd a chyfarfod cyfoedion a chyd-weithwyr.

Dewch i gwrdd â chynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol ym Mhafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru.