Parth Sgiliau Caffael

Bydd technoleg yn chwarae rhan gynyddol yn y broses gaffael drwy’r datblygiadau cyflym mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Data Mawr – sy’n newid y ffordd rydym yn gweithio ac yn tarfu ar fwy o sectorau.

Felly, rhaid i weithwyr proffesiynol ym maes caffael barhau i ddatblygu sgiliau masnachol a phersonol newydd, fel unigolion ac fel timau, i sicrhau eu bod yn gallu denu, datblygu a chadw talent newydd a phresennol, a mabwysiadu technolegau newydd i wella eu galluoedd.

Bydd y Parth Sgiliau Caffael yn darparu sesiynau hyfforddi a gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar sut gall y proffesiwn ddenu a chadw talent, a datblygu eu personél, eu prosesau a’u technolegau i gaffael yn fwy effeithiol.