Parth Diwygio Caffael

Y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar gaffael a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cydnabod rôl caffael fel un o’r cyfryngau mwyaf allweddol o ran gwneud gwahaniaeth i lesiant yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith ar gyfer gwella llesiant y boblogaeth drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

Bydd y Parth Diwygio Caffael yn eich helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau ym mhrosesau caffael cyhoeddus Cymru. Bydd hefyd yn edrych ar rôl Canolfan Ragoriaeth Caffael Cymru a’i ffocws cychwynnol ar rôl caffael masnachol o ran cefnogi targed Cymru i gyrraedd Sero Net erbyn 2030.