Parth Ymgysylltu â’r Farchnad

Mae ymgysylltu cynnar rhwng prynwyr a chyflenwyr yn golygu bod modd darparu gwasanaethau caffael yn effeithlon ac yn effeithiol.

Bydd y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn cael effaith sylweddol ar y broses gaffael, a gall ymgysylltu cynnar helpu i baratoi ar gyfer y gofynion newydd, lleihau rhwystrau a galluogi mwy o gyfranogiad gan fusnesau bach a chanolig.

Bydd y Parth Ymgysylltu â’r Farchnad yn rhoi cyfle i fynychwyr glywed gan benderfynwyr caffael allweddol Cymru ynghylch sut gall prynwyr a chyflenwyr ymgysylltu’n effeithiol â’i gilydd, datblygu prosesau arloesol a chyson, a galluogi mwy o sefydliadau i gyfrannu at y broses gaffael.