Parth Digidol

Mae adnoddau digidol yn cynnig y potensial i wella bywydau pobl, cryfhau’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus a gwaith y llywodraeth eu cyflawni, yn ogystal â helpu busnesau i addasu ar gyfer y dyfodol.

Dangosodd y pandemig bwysigrwydd adnoddau digidol yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau modern yn gyflym, gan weithredu fel catalyddion mawr i’n helpu i addasu i’r heriau rydym wedi’u hwynebu.

Gyda hyn mewn golwg, mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn edrych tua’r dyfodol, ac yn amlinellu gweledigaeth genedlaethol i fabwysiadu dull digidol unedig ledled Cymru. 

Mae’n canolbwyntio ar newid ledled Cymru, ac yn dwyn ynghyd ymdrechion yr awdurdodau lleol, y byd academaidd, cynghorau cymuned, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, y trydydd sector, a phartneriaethau cymdeithasol. Mae’n nodi sut y byddant, gyda’i gilydd, yn dylunio ac yn gweithredu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn datblygu’r economi, ac yn lleihau anghydraddoldebau.

Bydd y strategaeth hon yn sicrhau manteision adnoddau digidol i bobl, gwasanaethau cyhoeddus, a busnesau Cymru.

Bydd y Parth Digidol yn Procurex Cymru yn cynnal sawl sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddeall sut mae’r strategaeth hanfodol hon yn cael ei rhoi ar waith, a’i dylanwad ar y farchnad sector cyhoeddus yng Nghymru.