Parthau Datblygu Sgiliau

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cynrychioli’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar gaffael a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cydnabod rôl caffael fel cyfrwng allweddol i wneud gwahaniaeth i lesiant yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cysyniad o gaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol drwy’r Ddeddf, sy’n dwyn pedair egwyddor ynghyd: Partneriaeth Gymdeithasol, Caffael Cymdeithasol Gyfrifol, Gwaith Teg, a Datblygu Cynaliadwy.

Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio yng Nghymru osod a chyhoeddi amcanion i gyflawni “nodau caffael cymdeithasol gyfrifol”.

O ganlyniad, bydd Procurex Cymru yn cynnal pedwar parth datblygu sgiliau i adlewyrchu’r diwygiad caffael sylweddol hwn, gan roi cyfle i brynwyr a chyflenwyr glywed gan ffigurau allweddol a llunwyr penderfyniadau ym maes caffael cyhoeddus a dysgu sut gallant ymgysylltu’n effeithiol â chanlyniadau arfaethedig y Ddeddf, a’u cefnogi

Bydd Parth Cynaliadwyedd a Gwerthoedd Cymdeithasol Procurex Cymru yn cynnal sawl sesiwn sy’n canolbwyntio ar archwilio pam mae deall cynaliadwyedd caffael a gofynion gwerth cymdeithasol Cymru yn hanfodol er mwyn sicrhau busnes yn y farchnad sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y Parth Digidol yn Procurex Cymru yn cynnal sawl sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddeall sut mae’r strategaeth hanfodol hon yn cael ei rhoi ar waith, a’i dylanwad ar y farchnad sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y Parth Sgiliau Caffael yn darparu sesiynau hyfforddi a gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar sut gall y proffesiwn ddenu a chadw talent, a datblygu eu personél, eu prosesau a’u technolegau i gaffael yn fwy effeithiol.

Mae ymgysylltu cynnar rhwng prynwyr a chyflenwyr yn golygu bod modd darparu gwasanaethau caffael yn effeithlon ac yn effeithiol.

Bydd y Parth Ymgysylltu â’r Farchnad yn rhoi cyfle i fynychwyr glywed gan benderfynwyr caffael allweddol Cymru ynghylch sut gall prynwyr a chyflenwyr ymgysylltu’n effeithiol â’i gilydd.

Y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar gaffael a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd y Parth Diwygio Caffael yn eich helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau ym mhrosesau caffael cyhoeddus Cymru.